Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 9
Ionawr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynglŷn â diben y monitro uwch a gyhoeddwyd heddiw?
(5 munud)
NDM6916 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca Evans (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Julie James (Llafur).
(60 munud)
NDM6908 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2018.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2019.
(60 munud)
NDM6907 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2018.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 2 Ionawr 2019.
(60 munud)
NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.
2. Yn gresynu:
a) bod mwy na 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a
b) bod prisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog oherwydd prinder cartrefi.
3. Yn nodi papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod yr angen i adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a
b) rhoi mwy o hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy.
Ceidwadwyr Cymru - Cartrefu Cenedl
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.
b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.
b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.
3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.
4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘sy'n cael eu hadeiladu’, mewnosoder ‘yn y sector tai cymdeithasol’.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:
bod cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth cartrefi.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru;
b) gweithredu argymhellion adroddaid Crisis, ‘Everybody In: How to end homelessness in Great Britain’;
c) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau cynaliadwy; a
d) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol.
Everybody In: How to end homelessness in Great Britain(Saesneg yn unig)
(30 munud)
NDM6900 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Gwres gwyn technoleg?
Cau'r bwlch sgiliau yng Nghymru yn yr oes ddigidol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2019